Mae dod â phrosiect mor fawr â’r Cylch Celtaidd, gyda’i ddeng safle, o syniad i fenter weithio derfynol yn llwyddiannus angen mesur teg o ewyllys da o wahanol ffynonellau. Ar y dudalen hon hoffem eich cyflwyno i’r bobl sy’n gwneud hyn yn bosibl. |
| |
- Malltraeth Ymlaen -
|
 |
Sefydliad cymunedol lleol a sefydlwyd yn 2005 yw Malltraeth Ymlaen sy’n cefnogi ardal Malltraeth, Ynys Môn. Mae’n cyfarfod yn fisol yng Nghanolfan Gymunedol Bodorgan (mae pob cyfarfod yn agored i’r cyhoedd) ac yn 'nawdd ' i nifer o fentrau yn cynnwys dysgu gydol oes (am ba un yr enillodd wobr lawn bri BT 2006), prosiectau amgylcheddol a gweithio’n gyffredinol i hybu’r ardal.
Mae Malltraeth Ymlaen hefyd yn sefydliad cysgodol ar gyfer prosiect y Cylch Celtaidd, ac am hynny cynigiwn ein diolch diffuant am eu cymorth a’u cefnogaeth.
|

Mae Malltraeth ei hun yn bentref bychan deniadol yn ne orllewin yr ynys. Mae’n fyd enwog am gyfoeth bywyd adar ei forfeydd heli ac yn adnabyddus orau efallai fel 'ardal Tunnicliffe' o fod yn hoff fan yr artist enwog. ( Y bydd iddo’n fuan oriel un pwrpas yn Oriel Môn, Llangefni.) Mae wedi ei nodweddu hefyd yn y ffilm 'Half Light'. Mae’r olygfa ar hyd cors Malltraeth o’r pentref yn un o’r rhai gorau ar yr ynys.
|
 |
- Medrwn Môn -
|
Sefydliad yw Medrwn Môn sy’n darparu pwynt cyswllt canolog ar gyfer dros 700 o sefydliadau gwirfoddol ar Ynys Môn. Maent yn darparu cyngor ac arbenigedd i rai o brosiectau lleiaf yr ynys ac yn eu cynorthwyo i fynd at arian. Un prosiect o’r fath yw’r Cylch Celtaidd - Diolch! |
Medrwn Môn, Neuadd y Sir/Shirehall, Ffordd Glanhwfa/Glanhwfa Road, Llangefni, Ynys Môn/Anglesey, LL77 7EN ~ Ffôn/Tel: 01248 724944 |
 |
- Menter Môn -
|
Ymgorfforwyd Menter Môn Cyf yn 1996 i weinyddu rhaglen LEADER 11 yr UE . Ers yr adeg honno mae wedi tyfu’n rhaglen flaengar ac yn asiant cyflwyno prosiect, yn cynllunio, gweithredu ac arfarnu rhaglenni Ewropeaidd a rhai sector cyhoeddus eraill. Mae ei gwaith wedi ennill adnabyddiaeth ar lefel Cymru -gyfan ac UE . Mae’n ddiweddar wedi ennill drwodd i rownd derfynol gwobrau Prydain Fentrus y DU fel yr enillydd rhanbarthol ar gyfer Cymru.
Bu hefyd yn gymorth anferthol i brosiect y Cylch Celtaidd o’r cychwyn cyntaf. |
|
|