| |
Ynys Seintiau a Thywysogion |
Mae gan Ynys Môn hanes ysblennydd i’w ddweud. Ymweld â’r Ynys yw cerdded ymhlith miloedd o flynyddoedd o hanes, wedi ei gynnwys nid mewn amgueddfa, ond mewn amgylchedd bywydol sy’n ferw lle mae pobl yn treulio’u bywydau bob dydd wedi eu hamgylchynu gan eu hanes eu hunain, ac yn dal i weithio gydag ef.
Wrth galon y cymunedau bychain sy’n ffurfio’r ynys y mae ei heglwysi. Bu’r eglwys bob amser yn fan lle nodir geni, priodi, a marw. Mewn amserau mwy cythryblus roeddent yn fannau lloches: cofiwch bod Ynys Môn yn darged aml i ysbeilwyr, y Llychlynwyr ymhlith eraill.
Canlyniad cannoedd o flynyddoedd o’r datblygiad hwn yw bod gan Ynys Môn drysorfa gyfoethog o eglwysi hanesyddol. Gyda hyn mewn golwg y lluniwyd prosiect y Cylch Celtaidd. Yn 2007 unodd dau blwyf yn ne’r ynys gyda’i gilydd i ffurfio llwybr treftadaeth ar y cyd yn cynnwys deg o eglwysi mwyaf hanesyddol, pwysicaf, ac, yn aml, harddaf yr ynys. Mae pob un o’r deg eglwys wedi eu lleoli o fewn pellter gyrru hawdd oddi wrth ei gilydd ac mae gan bob un ei hanes unigryw ei hun i’w ddweud.

Nid yw’r Cylch Celtaidd yn ymwneud yn unig ag ymweld â’r eglwysi fodd bynnag. Mae’n ymwneud â chyflwyno ynyswyr ac ymwelwyr fel ei gilydd i’r cymunedau ac i wyth ganrif o hanes lle mae ganddynt eu lle.
Croeso i’r Cylch Celtaidd! |
|